Trosolwg
Trosolwg
Mae'r Diploma Lefel 3 yn rhaglen Brentisiaeth a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sydd am gymryd y camau cyntaf i reoli ac ar gyfer y rhai sydd eisoes â rhai cyfrifoldebau rheoli. Mae hwn yn gymhwyster sy’n cyfuno gwybodaeth a chymhwysedd ac sydd yn adeiladu a datblygu sgiliau newydd i wella rhagolygon gyrfaoedd rheoli.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r rhaglen astudio hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy'n newydd i neu'n arwain at eu rôl arweinydd tîm neu reolaeth gyntaf. Mae’r cymhwyster yn rhoi cyflwyniad i egwyddorion rheoli wrth ddatblygu sgiliau allweddol i ddatblygu fel rheolwr.
Gwybodaeth bellach
Dyma rai o'r manteision y gall dysgwyr ac sefydliadau eu hennill o'r cymwysterau ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Buddion i Ddysgwyr
- Gwella eich dealltwriaeth o dechnegau arwain a rheoli penodol i wella'ch ymarfer a gwella perfformiad ysgolion
- Ennill achrediad ffurfiol ar gyfer sgiliau yr ydych eisoes yn dangos cymhwysedd ynddynt, tra'n datblygu sgiliau arwain a rheoli newydd
- Gwella'ch CV ar gyfer mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi gyda chymhwyster sy'n drosglwyddadwy ar draws pob sector o ddiwydiant
- Dull dysgu hyblyg, gan weithio o'ch cwmpas a'ch ymrwymiadau
- Dim cost i chi
- Cefnogaeth gan eich asesydd penodedig bob cam o'r ffordd
- Tystiolaeth o gymryd perchnogaeth ar eich datblygiad proffesiynol eich hun
- Gall arwain at ddilyniant gyrfa
- Datblygu sgiliau strategol
Buddion i'r Sefydliad
- Cymhwyster sy’n datblygu sgiliau rheoli ac arwain eich gweithwyr
- Cymhwyster sy’n annog meddwl strategol a allai gynorthwyo a gwella effeithlonrwydd a chystadleurwydd
- Ffordd werthfawr i annog datblygiad personol gweithwyr a ffordd dda o ddarparu buddion clir i'r rhai sydd am ddatblygu eu hunain neu sydd yn edrych i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd
- Y gallu i addasu'r cymhwyster yn benodol ar gyfer anghenion datblygiad proffesiynol eich gweithwyr a'u nodau gyrfa
Gwybodaeth ddefnyddiol
Hyd y Cwrs
Hyd at 15 mis
Cost
Dim cost i'r dysgwr na'r ysgol. Cymhwyster a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop
Unedau'r Cymhwyster
Galwedigaethol, Damcaniaeth a Sgiliau HanfodolCofrestru
Darperir proses gofrestru gynhwysfawr a chefnogaeth gan asesydd dynodedig
Beth mae'n Dysgwyr yn ei ddweud
"Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu gyrfa a dysgu mwy am arweinyddiaeth a rheolaeth"
Elin Llŷr
Deryn
"Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gynigir gan Portal wedi bod o gymorth mawr i'm datblygiad proffesiynol parhaus a byddaf yn sicr o helpu i wella fy rhagolygon gyrfa ymhellach "
Graham Stephens
Adapt
"Cefais y cyfle i uwchsgilio fy hun er mwyn dod yn arweinydd gwell ar gyfer fy nhîm"
Matt Anthony
Cymdeithas Darparwyr Addysg Dan Oed Ysgol