Portal NewsWMae'n bleser gennym rannu'r newyddion bod Gwenno wedi codi £542.40 ar gyfer elusen ddewisol Portal, Mind!

Cododd 271% o'i tharged gwreiddiol o £200 drwy redeg Marathon Madrid yn ddiweddar!

Mae Mind yn elusen iechyd meddwl wych na fydd yn rhoi'r gorau iddi nes bod pawb sy'n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth a pharch. Rydym ni yn Portal yn falch iawn o gefnogi'r elusen hon. Ewch i wefan Mind i ddarllen am y gwaith gwych maen nhw'n ei gwneud.

 

 

Llongyfarchiadau unwaith eto Gwenno ar dy gyflawniad anhygoel a diolch o galon i'r holl gydweithwyr, ffrindiau a theulu a gymerodd yr amser i gyfrannu at yr achos teilwng hwn.

Bydd y dudalen Just Giving yn aros ar agor am y tro felly mae yna dal amser i noddi Gwenno os nad ydych eto wedi cael y cyfle.