Trosolwg
Trosolwg
Mae'r Diploma Lefel 4 yn rhaglen Prentisiaeth Uwch a ariennir* gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau a thechnegau rheoli ac arwain trwy ddull asesu cymysg, gan ddarparu cymhwyster sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr mewn addysg ac a gydnabyddir yn rhyngwladol ar draws pob sector o ddiwydiant.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
heolwyr canol sydd â chyfrifoldeb am raglenni a/neu adnoddau sylweddol sydd am symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sector Addysg. Mae'n datblygu sgiliau rheoli pobl, cynllunio strategol, newid strategol a dylunio prosesau busnes er mwyn gyrru gwelliannau ac yna gwella perfformiad. Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd newydd ddechrau o fewn swyddi rheolwyr canol neu arweinwyr canol profiadol sy'n edrych i wella rhagolygon gyrfa.
Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd newydd ddechrau o fewn swyddi rheolwyr canol neu arweinwyr canol profiadol sy'n edrych i wella rhagolygon gyrfa.
Gwybodaeth bellach
Dyma rai o'r manteision y gall dysgwyr ac ysgolion eu hennill o'r cymwysterau ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Buddion i Ddysgwyr
- Gwella eich dealltwriaeth o dechnegau arwain a rheoli penodol i wella'ch ymarfer a gwella perfformiad ysgolion
- Ennill achrediad ffurfiol ar gyfer sgiliau yr ydych eisoes yn dangos cymhwysedd ynddynt, tra'n datblygu sgiliau arwain a rheoli newydd
- Gwella'ch CV ar gyfer mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi gyda chymhwyster sy'n drosglwyddadwy ar draws pob sector o ddiwydiant
- Dull dysgu hyblyg, gan weithio o'ch cwmpas a'ch ymrwymiadau
- Dim cost i chi
- Cefnogaeth gan eich asesydd penodedig bob cam o'r ffordd
- Tystiolaeth o gymryd perchnogaeth ar eich datblygiad proffesiynol eich hun
- Gall arwain at ddilyniant gyrfa
- Datblygu sgiliau strategol
Buddion i'r Ysgol
- Cyfle DPP o ansawdd uchel wedi'i ariannu'n llawn heb unrhyw gost i'r ysgol
- Cymhwyster sy'n annog meddwl strategol a all gyfrannu at wella ysgolion
- Nid yw'r rhaglen yn mynd ag athrawon allan o'r ystafell ddosbarth, fodd bynnag bydd angen i chi ymrwymo i gwrdd â'ch asesydd bob mis am tua 1 - 1.5 awr
- Cymhwyster sy'n datblygu sgiliau rheoli ac arwain staff
- Offeryn datblygu personol gwerthfawr i staff sy'n chwilio am y cam nesaf yn eu gyrfa
Gwybodaeth ddefnyddiol
Hyd y Cwrs
Hyd at 18 mis
Cost
Dim cost i'r dysgwr na'r ysgol. Cymhwyster a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (£4,000 - £5,000)
Unedau'r Cymhwyster
Galwedigaethol, Damcaniaeth a Sgiliau HanfodolCofrestru
Darperir proses gofrestru gynhwysfawr a chefnogaeth gan asesydd dynodedig
Beth mae'n Dysgwyr yn ei ddweud
"Mae'r cwrs wedi gwella fy hyder a'm cymhwysedd mewn ystod o dechnegau rheoli a alluogodd yn ddiweddar i mi drafod a rheoli bid ariannol ar gyfer yr ysgol"
Sarah Dunn
Ysgol Gynradd High Cross, Casnewydd
"Newidiodd ILM y ffordd rwy'n rheoli timau a sut rydw i'n delio â newid a'i weithredu ar draws yr ysgol"
Nikki Hagerty
Ysgol Gynradd Coed y Dderwen, Merthyr Tydfil
"Mae staff yn defnyddio eu profiadau eu hunain a gallant weld sut mae'r rhaglen yn sail i'w harweinyddiaeth yn yr ysgol"
Hilary Jones
Ysgol St Cyres, Caerdydd