Oherwydd twf, rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm ansawdd bywiog fel Arweinydd Sicrhau Ansawdd Mewnol.
Mae'r sefyllfa'n cynnwys rheoli a goruchwylio'r swyddogaeth IQA ochr yn ochr a rhoi cymorth i'r tîm IQA.
Mae’n hanfodol fod gennych gymwysterau mewn sicrhau ansawdd mewnol, arferion asesu a rheoli, ond nid yw'r gallu i siarad y Gymraeg yn hanfodol.
Mae’r swydd yn seiliedig yn y cartref / yn y maes ond fe ellir disgwyl teithio ar adegau ac felly mae’r gallu I deithio yn hanfodol.
Cyflog: £33,500 YF, YNGHYD â £500 ychwanegol ar gyfer y Gymraeg.
Buddion Ychwanegol: cluniadur, ffôn symudol, pecyn gwyliau hael, cynllun pensiwn cyfrannol a mwy.
Sylfaen: Yn y cartref (yn seiliedig yn y maes).
Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos).
Dyddiad Cau: 30 Gorffennaf 2021.
Y broses ymgeisio: Llenwch y ffurflen gais safonol a geir ar ein gwefan:https://www.portaltraining.co.uk/cy/am/swyddi-gwag.html a chyflwynwch gyda'ch CV Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Portal yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynt os dderbynnir nifer o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i ystyried y swydd hon.
Bydd ymgeiswyr yn derbyn gohebiaeth yn symud eu cais ymlaen i'r cam nesaf o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau. Os na dderbynnir hyn, gall ymgeiswyr dybio nad yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.