Aseswyr
Andrea Matthews
Rheolwr Perfformiad
Ymunodd Andrea â chriw Portal ym mis Mai 2016. Mae hi wedi gweithio yn y maes ‘Dysgu’n Seiliedig ar Waith’ yn ystod y 17 mlynedd diwethaf. Mae hi wedi cael nifer o rolau gan gynnwys Aseswr, Rheolwr Ansawdd Mewnol ac Allanol ac yn fwyaf diweddar yn Reolwr Perfformiad Prentisiaeth ar gyfer contractau ‘dysgu seiliedig ar waith’ yng Nghymru a Lloegr. Mae gan Andrea nifer o gymwysterau ym maes Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, gan gynnwys Lefel 5 ym Mhrentisiaeth Uwch ILM mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, hefyd Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth Strategol ILM. Mae hi wedi cyflwyno cyrsiau Rheolaeth a Phrentisiaethau Arweinyddiaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys Addysg, Cyfrifeg, Marchnata Digidol ac yn ddiweddar gyda grŵp o brentisiaid yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe.
Cate Harnden
Aseswr Rheolaeth
Ymunodd Cate â Portal yn 2018, yn dilyn profiad eang o weithio o fewn addysg, gan gynnwys darparu rhaglenni lles a hybu iechyd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd, ac fel athro Hanes a Chymdeithaseg. Mae hefyd wedi gweithio fel athro ysgol gynradd a arweiniodd at swydd Athro Ymgynghorol Addysg Gynnar ar gyfer Sir Wrecsam, gan ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth y cyfnod sylfaen i grwpiau meithrin ac ysgolion, gyda ffocws ar ddarpariaeth Gymraeg, cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a'r Fframwaith Digidol Cymhwysedd. Mae Cate yn angerddol am addysg ac yn credu'n gryf mewn dysgu gydol oes. Mae ganddi hefyd ddiddordebau busnes. Mae hi wedi sefydlu dau fusnes bach ac wedi ennill Gwobr Busnes Ieuenctid Tywysog Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr cwmni Making Sense CIC.
Elfed Wood
Aseswr Rheolaeth
Ymunodd Elfed â Portal yn 2018 fel Aseswr Rheoli cyfrwng Cymraeg ar ôl gweithio'n flaenorol fel Pennaeth mewn 4 ysgol gynradd wahanol yn Sir Gaerfyrddin. Mae Elfed yn Arolygydd Cymheiriaid ESTYN hyfforddedig. Mae'n angerddol am ddatblygu ymarferwyr i arweinwyr hyderus ac ysbrydoledig. Mae'n mwynhau teithio, cerddoriaeth a chwaraeon, ac mae'n ddilynwr rygbi brwd, yn benodol y Sgarlets.
Heidi Barbrook
Aseswr Rheolaeth
Fe ymunodd Heidi â Portal yn 2019 ac ma ganddi dros 23 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes dysgu yn y gweithle ac hyfforddiant masnachol. Mae Heidi wedi cyflawni nifer o swyddi yn y sector dros y blynyddoedd. Dechreuodd ei thaith fel asesydd / tiwtor, a symudodd ymlaen yn naturiol i rolau rheoli trwy gydol hanner olaf ei gyrfa mewn meysydd fel Dysgu a Datblygu a Dysgu yn y Gweithle. Mae Heidi yn angerddol iawn am ddysgu a datblygu ac mae ganddi agwedd gadarnhaol tuag at hyfforddiant parhaus gyda'r gallu i ysgogi timau ac unigolion yn frwd.
Jonathan Watkins-Stuart
Prif Asesydd
Mae Jonathan yn gyfrifol am weithio gyda dysgwyr sy’n ymgymryd â’u ILM Lefel 4 a Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ynghyd â sgiliau hanfodol Llythrennedd Cymru, Rhifedd a Llythrenedd Digidol. Mae’n darparu cefnogaeth ar y cymhwyster, gan ymgymryd dulliau asesu perthnasol i weithio tuag at gwblhau’r cyrsiau. Mae Jonathan hefyd yn gweithio ar y system cofrestru dysgwyr ‘Moodle’, gan weithio gydag adnoddau ac mae ein proses asesu ar-lein.
Melissa O'Connor
Aseswr Rheolaeth
Ymunodd Melissa â Portal fel Aseswr Rheolaeth yn 2017 ar ôl 11 mlynedd o addysgu yn y sectorau addysg bellach ac uwch. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n gweithio fel Arweinydd Modiwl, Rheolwr Rhaglen a Chydlynydd Cwricwlwm Addysg Uwch. Mae gan Melissa brofiad o addysgu ar draws ystod o lefelau o Lefel 2 (TGAU) i Lefel 6 (Gradd Anrhydedd BSc). Mae ei harbenigeddau pwnc yn cynnwys marchnata, cynaliadwyedd busnes a datblygu ymarfer myfyriol. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn cynaliadwyedd addysgol gyda ffocws arbennig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae Melissa wedi teithio'n helaeth ac mae wedi dysgu yn Cambodia. Mae hi’n mwynhau teithio i leoliadau newydd, ioga a myfyrdod.
Pauline Jones
Aseswr Rheolaeth
Ymunodd Pauline â Team Portal yn 2019 gyda sawl blwyddyn o brofiad mewn Dysgu Seiliedig ar Waith ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys diwydiannau gweithgynhyrchu, addysg, y sector cyhoeddus, byrddau iechyd a'r gwasanaethau brys.
Cydymffurfiaeth
Samantha Thole
Swyddog Cydymffurfiaeth
Ymunodd Sam â Portal yn 2018 yn dilyn 14 mlynedd yn gweithio yn y sector dysgu yn y gweithle. Yn flaenorol bu'n gweithio i ddarparwr arweiniol yng Nghymru yn cefnogi cyflwyniad rhaglenni prentisiaeth. Mae ganddi brofiad helaeth o'r rhaglen brentisiaeth, yn arbennig cydymffurfiaeth ac archwilio. Mae ei rôl bresennol yn cynnwys sicrhau ein bod yn cydymffurfio â holl rwymedigaethau ein contract dysgu yn y gweithle.
Cyfarwyddwyr
Gwawr Booth
Rheolwr Gyfarwyddwr
Gwawr Booth yw Rheolwr Gyfarwyddwr Portal ac mae wedi bod gyda ni ers 2010 wedi cyfnod o dros 15 mlynedd o brofiad addysgu mewn ysgolion uwchradd mawr. Yn ystod ei gyrfa fel athrawes bu’n Bennaeth Cynorthwyol, Bennaeth Adran a Chydlynydd Sgiliau Allweddol. Mae Gwawr yn angerddol am helpu cyflawni gwelliant ar draws pob math o addysgu ar gyfer dysgwyr o bob gallu a’i nod yw darparu gwasanaethau o ansawdd cyfartal yn Saesneg a Chymraeg.
Janice Hart
Cyfarwyddwr Ansawdd
Ymunodd Janice a Portal yn 2014. Cyn iddi ymuno a Portal roedd Jan yn gweithio mewn nifer o swyddi dysgu yn y gweithle, yn cynnwys; asesu, sicrhau ansawdd a darparu hyfforddiant yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyn hynny bu’n gweithio yn Gwasanaethau Addysg Ysgolion yn yr Almaen cyn symud yn ôl i Brydain lle bu’n rheoli lleoliad y Cyfnod Sylfaen yn Llundain. Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin mae Jan yn medru’r Gymraeg.
Clare Jeffries
Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Ymunodd Clare â Portal ym mis Gorffennaf 2016 ar ôl 13 mlynedd yn gweithio o fewn sefydliadau Addysg Bellach a Dysgu’n Seiliedig ar Waith. Yn ystod ei gyrfa, mae Clare wedi bod mewn nifer o swyddi arweinyddiaeth blaenllaw, er engraifft Rheolwr Gweithrediadau Rolau ac Uwch Reolwr Rolau. Mae Clare yn credu’n gryf mewn darparu cwmnïau â dimensiwn Ewropeaidd i’r patrwm gwaith, ac o ganlyniad yn aelod o’r grŵp Ymgynghori VET Erasmus+. Mae Clare yn angerddol am wella dysgu a gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad dysgu rhagorol.
Cyllid
Sue Mackenzie
Cynorthwyydd Ariannol
Professional Experience Senior Finance Officer. Finance Assistant. Trained with ACT Training in Accounting and Finance and studied for my AAT Qualifications. Area Manager for a marketing company. Life Outside Portal “I enjoy reading and visiting historical places.” Where is your favourite place in Wales? “Snowdonia.”
Tim Ymgysylltu
Sarah Heenan
Datblygwr Tîm
Professional Experience People and Development Manager. People and Development Officer. Learning and Development Manager. Various roles of HR, Learning and Development, Quality and Assessment. Life Outside Portal “I am a busy working mum, with two children, my husband and one cat. I enjoy food and wine (white wine in particular). What is your favourite quote? “The cave you fear to enter, holds the treasure you seek- Joseph Campbell.”
IQA / Ansawdd
Alison Knapman
Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
Ymunodd Alison â Portal yn 2017 ar ôl gweithio mewn sefydliadau addysg bellach ac ysgolion. Yn ystod ei gyrfa mae Alison wedi gweithio mewn nifer o swyddi arwain a rheoli gan gynnwys Pennaeth Ysgol, Cyfarwyddwr Cyfadran a rôl dros dro fel Is-Bennaeth. Mae Alison wedi rheoli ystod eang o ddarpariaeth gan gynnwys prentisiaethau, darpariaeth amser llawn ac ysgolion, o fewn portffolio o bynciau amrywiol. Mae Alison yn angerddol am ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu rhagorol trwy ddatblygu strategaethau asesu amrywiol a chreadigol i ymgysylltu â dysgwyr i gyrraedd eu potensial. Mae enghreifftiau'n cynnwys rheoli a chynllunio busnes dyluniad y cwricwlwm ar gyfer cwmnïau addysgu allanol fel salon gwallt a harddwch yng Nghaerloyw, bwyty yn Cheltenham a chwmni adeiladu. Enillodd Alison ei BA (Anrh) mewn Addysg a Hyfforddiant ac MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Jo Norton
Rheolwr Sicrhau Ansawdd Mewnol
Dechreuodd diddordeb Jo mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi iddi dderbyn swydd yn y maes ar ôl graddio o Brifysgol Bangor, Gogledd Cymru. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Jo wedi gweithio yn y sector hyfforddiant, gan gynnwys swyddi addysgu, asesu, datblygu cwricwlwm a rheoli ansawdd. Mae Jo wedi datblygu ei sgiliau arwain a rheoli yn barhaus drwy amrywiaeth o rolau swyddi mewn diwydiant ac addysg. Yn 2016 cyflawnodd Jo radd MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wrthi’n astudio ar gyfer Doethuriaeth yn y maes.
Gwenno Llwyd Jones
Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
Ymunodd Gwenno â thîm Portal fel Asesydd Rheoli Cyfrwng Cymraeg ym mis Ionawr 2016. Bu’n gweithio’n cyn hynny fel Athrawes a Phennaeth yr adran Ffiseg yn Ysgol y Cymer, Rhonddda. Ymysg ei chyfrifoldebau fel pennaeth yr adran Ffiseg yn ysgol y Cymer by Gwenno yn arwain mentrau rhifedd o fewn yr adran a mentora myfyrwyr Gwyddor TAR yn ystod eu chyfnod yno. Mae gan Gwenno radd mewn Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol o Brifysgol Caerdydd. Mae Gwenno yn angerddol am deithio a chadw’n heini. Mae hi’n mwynhau rhedeg a cherdded mynyddoedd ar y penwythnosau ac wedi cystadlu yn Ras yr Wyddfa!
Josh Young
Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
Fe ddaeth Josh i Portal yn 2019, ar ôl bod yn gweithio i sawl darparwr hyfforddiant ar draws y Deurnas Unedig. Mae ganddo 11 mlynedd o brofiad mewn cyd-destun dysgu yn y gweithle, ac mae wedi dal nifer o swyddi yn y sector. Mae ei brofiad yn ymestyn i nifer o ddiwydiannau gan gynnwys rheolaeth, lletygarwch, TG a datblygu chwaraeon. Mae gan Josh ddiddordeb enfawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed, lle mae'n gwirfoddoli fel hyfforddwr ieuenctid ac ar hyn o bryd mae'n rhedeg tîm hŷn yng Nghaerdydd.
Dawn Rice
AAM / Aseswr Rheolaeth
Ymunodd Dawn Vanstone â Thîm Portal ym mis Chwefror 2015. Fe fu Dawn yn gweithio yn y diwydiant dysgu seiliedig ar waith ers 18 mlynedd ac mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn asesu, hyfforddiant, sicrhau ansawdd a phrosesau gwirio. Fe fu Dawn yn gweithio mewn sawl swydd yn y sector Hyfforddiant, gan ddechrau ei gyrfa yn y diwydiant ym 1996. Sbardunwyd brwdfrydedd Dawn ynghylch cymwysterau galwedigaethol gan ei phrofiad fel ymgeisydd Prentisiaeth ei hun, ac fe ddatblygodd hyn yn gyfle i ddod yn Aseswr. Ers cychwyn ei siwrnai mewn dysgu seiliedig ar waith, mae Dawn wedi cyfoethogi ei sgiliau trwy amrywiaeth o rolau, gan gynnwys prif wiriwr, rheolwr ansawdd ac, yn y 10 mlynedd diwethaf, arweinydd tîm i grwpiau o Aseswyr a Gwirwyr a oedd yn trosglwyddo amrywiaeth o lwybrau gan gynnwys Busnes, Gweinyddu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae Dawn yn llawn cyffro ynghylch ei phenodiad diweddar gyda Portal ac yn edrych ymlaen yn arw at ddefnyddio’i gwybodaeth a’i sgiliau ar y rhaglenni Rheolaeth Lefel Uwch.
Perthnasoedd
Kelsey Williams
Swyddog Recriwtio Dysgwyr
Ymunodd Kelsey â Portal ym mis Hydref 2017 fel Swyddog Cefnogi Cydberthnasau yn dilyn 6 mlynedd fel athrawes ysgol gynradd. Mae Kelsey wedi ennill BA (Addysg) mewn Addysgu Cynradd ac MA mewn Ymarfer Addysgol ac mae'n angerddol ynglŷn ag addysgu a dysgu, a helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae gan Kelsey brofiad o addysgu ystod o alluoedd ac mae wedi bod yn ddigon ffodus i weithio fel athrawes yng Ngwlad Swazi a De Affrica.
Phil O'Brien
Swyddog Datblygu Busnes
Mae Phil wedi cronni 18 mlynedd o brofiad o fewn y maes ac wedi cyflawni nifer o wahanol rolau. Mae'n asesydd gymwysiedig, rôl a gyflawnodd am 3 blynedd cyn dychwelyd i recriwtio dysgwyr ar gyfer cymwysterau. Treuliwyd gweddill yr amser hwnnw'n gweithio mewn rolau Datblygu Busnes lle mae wedi arbenigo mewn adeiladu partneriaethau hir dymor gyda chyflogwyr i sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi yn cael eu nodi a'u diwallu. Mae gan Phil Msc mewn Rheoli Gwybodaeth a Chyfathrebu ac mae wedi bod yn rhan o'r tîm er mis Ionawr 2020