
Dechreuodd Chris Prendergast ei yrfa fel prentis trydanol gyda Lloyd Morris Electrical (LME) ym 1999.
Dros 26 mlynedd yn ddiweddarach, mae bellach yn Rheolwr Gosodiadau, yn aelod o Fwrdd JTL fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolwyr, wedi cwblhau cymwysterau arweinyddiaeth ILM Lefel 4 hyd at Lefel 7 gyda Portal, ac fe’i rhestrwyd yn y rownd derfynol ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau Cambrian Training 2026.
Ar ôl symud i rôl reoli yn ystod pandemig COVID-19, sylweddolodd Chris fod y swydd yn galw am lefel wahanol o arweinyddiaeth. Fel llawer o sefydliadau ar draws y sector, roedd LME yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol gymhleth, gan gydbwyso cyflwyno prosiectau, costau cynyddol, pwysau ar y gweithlu a thwf hirdymor. O ganlyniad, daeth datblygu gallu arweinyddiaeth mewnol cryfach yn flaenoriaeth gynyddol bwysig i’r busnes.
Er bod ganddo gyfoeth o brofiad technegol, roedd Chris yn awyddus i ddatblygu ei feddwl strategol, ei sgiliau cyfathrebu a’i alluoedd rheoli er mwyn cefnogi ei dîm a’r busnes ehangach yn fwy effeithiol.
“Er mwyn helpu’r tîm i arwain pobl yn iawn, mae’n rhaid i chi barhau i ddatblygu eich hun hefyd. Dylid gweld bod cydnabod yr angen I wella mewn rhai meysydd fel cryfder, nid gwendid,” meddai Chris. “Rwyf wedi treulio ugain mlynedd yn adeiladu gwybodaeth dechnegol, ond roeddwn eisiau cryfhau fy sgiliau strategol a dysgu sut i gefnogi pobl yn well.”
Cwblhaodd Chris gymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 4 a Lefel 5 drwy Portal Training, gan gwblhau’r brentisiaeth Lefel 5 mewn llai nag 16 mis tra’n parhau i arwain timau a goruchwylio prosiectau ledled y busnes.
Nododd uwch arweinwyr LME newidiadau sylweddol yn null arweinyddiaeth Chris, gan gynnwys cyfathrebu cryfach, datblygu timau yn fwy effeithiol a dull mwy strategol o gynllunio a gwneud penderfyniadau. Helpodd y cymhwyster i bontio’r bwlch rhwng arbenigedd technegol ac arweinyddiaeth strategol, gan roi mwy o hyder iddo mewn meysydd megis rheoli pobl, cynllunio, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau busnes.
“Mae ochr strategol y cymhwyster wedi gwneud gwahaniaeth enfawr,” meddai Chris. “Rydych yn dechrau edrych ar heriau, yn ogystal â thasgau bob dydd, mewn ffordd wahanol. Mae’n rhoi mwy o hyder i chi wrth wneud penderfyniadau ac yn eich helpu i feddwl yn fwy hirdymor.”
Mae Chris bellach yn datblygu rhaglen arweinyddiaeth fewnol i gefnogi goruchwylwyr trydanol i gryfhau eu sgiliau goruchwylio ac arwain, gan helpu i ddatblygu llwybrau cynnydd ac arweinyddiaeth ar draws y sefydliad.
Mae ei brofiad wedi ei wneud yn hyrwyddwr brwd dros brentisiaethau a’r angen I ddatblygu’r gweithlu o fewn y busnes. Heddiw, mae’n arwain rhaglen brentisiaeth Gosod Trydanol sydd â 12 prentis arni ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae pedwar aelod o staff yn dilyn prentisiaethau lefel uwch mewn rheoli prosiectau drwy Portal Training, tra bod dau arall yn cwblhau prentisiaethau gradd gyda Phrifysgol Wrecsam.
Yn ogystal ag arwain pobl a phrosiectau, cwblhaodd Chris ei gymwysterau yn ystod cyfnod arbennig o heriol i’r diwydiant. Fe greodd chwyddiant cynyddol a chostau deunyddiau anwadal bwysau sylweddol ar draws y sector, gyda phrisiau dur a chopr yn newid yn gyflym. Defnyddiodd Chris y dulliau a ddatblygodd yn ystod ei astudiaethau ILM i gryfhau rhagolygon, cynllunio a gwneud penderfyniadau busnes yn ystod cyfnod economaidd anrhagweladwy.
Roedd cwblhau’r ILM Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol yn garreg filltir bwysig arall yn ei yrfa. Wedi’i gynllunio ar gyfer uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am strategaeth a pherfformiad sefydliadol, mae’r cymhwyster wedi cryfhau ymhellach ei feddwl strategol, ei allu arwain a’i allu i ddylanwadu ar newid ar draws y busnes.
Gan iddo ddechrau ei yrfa ei hun fel prentis gyda JTL, mae penodiad Chris i Fwrdd JTL fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolwr yn nodi cylchdro gyrfaol llwyr, gan ei alluogi i helpu i lunio llwybrau arweinyddiaeth a diwylliant prentisiaethau’r dyfodol.
Dywedodd Daniel Lawson, Asesydd Rheolaeth gyda Portal Training: “Mae llwyddiant Chris yn gwbl haeddiannol. O’r eiliad y dechreuodd y cymwysterau arweinyddiaeth, roedd yn amlwg ei fod wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu nid yn unig ei hun, ond hefyd y bobl a’r sefydliad o’i gwmpas. Mae’n enghraifft wych o arweinyddiaeth fodern ar waith.”
Ychwanegodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal: “Yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf am Chris yw, er gwaethaf popeth y mae eisoes wedi’i gyflawni yn ei yrfa, mae dal am ddysgu, am wella a chodi safonau. Mae ei daith o fod yn brentis trydanol i fod yn uwch arweinydd, yn Ymddiriedolwr Bwrdd ac yn rownd derfynol Prentis Uwch y Flwyddyn yn gyflawniad aruthrol, ac yn un y mae’r tîm cyfan yma yn Portal yn hynod falch ohono.”
