
Mae arweinydd ysgol yng Ngogledd Cymru wedi ennill gwobr brentisiaeth genedlaethol i gydnabod ei gwaith yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a sbarduno gwelliannau o fewn ei hysgol.
Enwyd Samantha Stenhoff, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch, y Fflint, yn Brentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Cambrian Training ar ôl cwblhau ei Phrentisiaeth Uwch ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy Portal Training.
Cwblhaodd Samantha y cymhwyster tra’n parhau i gefnogi disgyblion a staff ar draws safleoedd yr ysgol yn y Fflint a’r Wyddgrug, gan gymhwyso ei dysgu yn uniongyrchol i’w rôl.
Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd ran allweddol mewn nifer o ddatblygiadau ysgol gyfan, gan gynnwys arloesedd digidol a datblygu’r cwricwlwm, gan helpu i greu profiadau dysgu mwy personol i ddisgyblion a chefnogi staff ar draws y sefydliad.
Dywedodd Samantha: “Mae’r brentisiaeth wedi newid y ffordd rwy’n mynd ati i arwain. Mae wedi rhoi’r hyder i mi arwain datblygiadau ysgol gyfan a chefnogi eraill mewn ffordd fwy strwythuredig.”
Daw’r wobr yn dilyn cyfnod o ddatblygiad proffesiynol sylweddol i Samantha, a symudodd ymlaen i rôl Pennaeth Cynorthwyol wrth gwblhau’r rhaglen.
Dywedodd y Pennaeth, Noel Fitzgerald: “Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae Samantha wedi’i gyflawni. Mae ei harweinyddiaeth wedi cael effaith wirioneddol o fewn yr ysgol ac mae bellach yn dylanwadu ar arferion yn ehangach.”
Ychwanegodd Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr Portal Training: “Dyma’n union beth ddylai uwch brentisiaethau eu cyflawni - datblygu pobl mewn ffordd sy’n creu effaith wirioneddol a pharhaol o fewn eu sefydliadau ac ar draws y sector perthnasol.”
Daw llwyddiant Samantha wrth i Ysgol Pen Coch barhau i gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a rhannu arferion da gydag ysgolion ledled y rhanbarth.
