
Yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026, hoffwn, yma yn Portal, nodi llwyddiant ein cohort Rheoli Prosiectau Lefel 4 diploma cyntaf erioed drwy edrych ar brofiadau tri dysgwr llwyddiannus. Mae’r cymhwyster wedi’i achredu gan Agored Cymru.
Mae’r tri dysgwr sef, Angharad o Mudiad Meithrin, Robert o Gyngor Sir Penfro a Sophie o’r GIG, yn tynnu sylw at effaith wirioneddol dysgu strwythuredig, seiliedig ar waith ar draws sectorau gwahanol iawn.
Yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026, hoffwn, yma yn Portal, nodi llwyddiant ein cohort Rheoli Prosiectau Lefel 4 diploma cyntaf erioed drwy edrych ar brofiadau tri dysgwr llwyddiannus. Mae’r cymhwyster wedi’i achredu gan Agored Cymru.
Mae’r tri dysgwr sef, Angharad o Mudiad Meithrin, Robert o Gyngor Sir Penfro a Sophie o’r GIG, yn tynnu sylw at effaith wirioneddol dysgu strwythuredig, seiliedig ar waith ar draws sectorau gwahanol iawn. I bob un o’r dysgwyr, rhoddodd y cymhwyster gyfle i ffurfioli profiad presennol tra’n datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol gryfach o reoli prosiectau.
Disgrifiodd Sophie, a oedd eisoes yn gweithio fel Rheolwr Prosiect o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), sut y gwnaeth y cymhwyster roi’r iaith, yr hyder a’r dulliau amgen oedd eu hangen arni i wella ei heffeithiolrwydd. Gwnaeth hefyd ei chefnogi I gyflwyno prosiectau’n llwyddiannus ar draws ei sefydliad. Ers cwblhau’r cwrs, mae wedi symud ymlaen i rôl rheoli prosiectau a rhaglenni ar lefel genedlaethol ac mae bellach yn datblygu rhaglen fentora i gefnogi eraill.
Sylweddolodd Angharad, Rheolwr Polisi a Grantiau Mudiad Meithrin, fod rheoli prosiectau bach a mawr wedi dod yn hanfodol o fewn ei rôl. Galluogodd y cymhwyster Lefel 4 iddi gamu’n ôl ac adolygu ei harferion gwaith mewn ffordd fwy gwrthrychol, gan wella ei dull o gynllunio, amserlenni a rheoli cymhlethdod. Tynnodd sylw at y ffaith fod cynyddu’r cynllunio a’r strwythur wedi talu ar ei ganfed wrth weithredu prosiectau newydd.
Myfyriodd Robert, sydd bellach yn Beiriannydd Trydanol gyda Chyngor Sir Penfro, ar sut y gwnaeth y cymhwyster ddyfnhau ei ddealltwriaeth o reoli prosiectau a chryfhau ei hyder. Ar ôl cefnogi prosiectau mewn lleoliad ysgol yn flaenorol, mae bellach yn cymhwyso’i ddysgu’n weithredol ar draws amrywiaeth o brosiectau adeiladu a seilwaith, gan gyfrannu’n fwy effeithiol at gyflwyno prosiectau.
Gyda’i gilydd, mae eu profiadau’n dangos pa mor drosglwyddadwy yw sgiliau rheoli prosiectau ar draws sectorau. O addysg blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cyhoeddus i adeiladu ac iechyd, mae’r cymhwyster wedi meithrin eu hyder, cefnogi eu cynnydd proffesiynol a chreu effaith y tu hwnt i’w rolau unigol.
Mae Diploma Rheoli Prosiectau Lefel 4 Portal wedi’i achredu gan Agored Cymru ac wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at ragori mewn amrywiaeth o rolau rheoli prosiectau.
