Yn ei rôl fel Rheolwr Polisi a Grantiau ym Mudiad Meithrin, fe welodd Angharad fod rheoli prosiectau bach a mawr wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o’i chyfrifoldebau dydd i ddydd. Er ei bod eisoes yn cadw prosiectau’n drefnus ac yn symud ymlaen, cydnabu’r angen i alinio ei dulliau a datblygu dealltwriaeth gryfach o’r theori y tu ôl i reoli prosiectau effeithiol.
Drwy gofrestru ar gymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4 Diploma Agored Cymru, cafodd Angharad gyfle i gamu’n ôl ac edrych ar ei harferion gwaith mewn ffordd fwy gwrthrychol.

Helpodd y cwrs iddi gryfhau ei dull o gynllunio, yn enwedig o ran amserlenni prosiectau a rheoli cymhlethdodau, gan ddarparu fframwaith clir y gallai ei gymhwyso’n gyson ar draws gwahanol brosiectau. Un o’r manteision allweddol i Angharad oedd y cyfle i drafod ei dysgu gyda asesydd gwybodus. Galluogodd y gefnogaeth hon hi i ymdrin ag elfennau mwy heriol o reoli prosiectau gyda hyder, ac i fyfyrio’n feirniadol ar y ffordd yr oedd yn cynllunio ac yn cyflwyno prosiectau o fewn ei sefydliad.
Wrth fyfyrio ar effaith y cymhwyster, dywedodd Angharad:
“Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a ddatblygais drwy astudio wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi wrth ymgymryd a rheoli prosiectau mwy cymhleth yn y gwaith.”
Ers cwblhau’r cymhwyster, mae ei hymwybyddiaeth o’r hyn sydd angen ei gynllunio ymlaen llaw wedi gwella, ac mae’r amser ychwanegol a dreuliwyd ar gynllunio wedi sicrhau buddion clir wrth weithredu mentrau newydd. Mae’r cymhwyster nid yn unig wedi gwella ei gallu unigol, ond hefyd wedi cryfhau cyflwyno prosiectau o fewn ei rôl ehangach ym Mudiad Meithrin.
Mae Diploma mewn Rheoli Prosiectau Lefel 4 Portal wedi’i achredu gan Agored Cymru ac wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n anelu at ragori mewn amrywiaeth o rolau rheoli prosiectau.