Mae penderfyniad Natalie Morgan i ddod yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon gyda Gymnasteg Cymru, ar ôl gweithio yn sector y celfyddydau perfformio am sawl blwyddyn, yn talu ar ei ganfed iddi.
Enillodd Natalie, 33, o Ben-arth, wobr Prentis Uwch y Flwyddyn pan gyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 mewn seremoni rithwir ar 17 Mehefin.
Llwyddodd i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.
Diolch i’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd Natalie yn gallu arwain prosiect llwyddiannus i ymgysylltu â merched ifanc a menywod o gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac arweiniodd hynny at ffurfio clwb gymnasteg ar eu cyfer.
Lansiwyd y clwb gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130, gyda chynnydd o 98% yn nifer yr aelodau mewn dim ond 18 mis. Llwyddodd Gymnasteg Cymru i gyrraedd y nod o adeiladu clwb sy’n cael ei redeg gan y gymuned ei hunan, gan fod pob un o’r 10 o oedolion oedd yn gwirfoddoli wedi dod yn hyfforddwyr cymwysedig erbyn hyn, ac mae 16 o arweinyddion chwaraeon ifanc yn eu helpu.
Llwyddodd y prosiect i feithrin cysylltiadau y tu allan i’r clwb hefyd. Mae Gymnasteg Cymru wedi meithrin partneriaethau cryf gyda sefydliadau fel Diverse Cymru, Ysgol Gynradd Mount Stuart and Chyngor Caerdydd.
“Mae ennill y wobr hon yn meddwl y byd i mi,” meddai Natalie. “Rwy wrth fy modd o feddwl fy mod wedi gallu rheoli prosiect mor wych yn y gymuned wrth wneud fy mhrentisiaeth.
“Rwy wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy mor ddiolchgar bod y brentisiaeth wedi agor y drws i gymaint o gyfleoedd eraill.
“Byddwn yn argymell Prentisiaeth Uwch yn fawr i unrhyw un sy’n ei ystyried. Mae’n ffordd wych o barhau i ddysgu ac yn gyfle i ehangu’ch gwybodaeth wrth weithio ar brosiectau ardderchog.”
Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.
Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.
Mae Natalie yn gweithio ar ddau brosiect arall o ganlyniad i’w phrentisiaeth: un gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru a’r llall ar gyfer UEFA, ar y cyd â Disney, i hyrwyddo llythrennedd corfforol trwy adrodd straeon. Mae hefyd wedi lansio ei busnes bach ei hunan, The Sweet and Sound Co.
Dywedodd Carys Kizito, rheolwr cydymffurfio gyda Gymnasteg Cymru: “Mae Natalie wedi defnyddio ei hangerdd a’i hymroddiad i ddysgu er mwyn rhoi cyfleoedd da i bobl eraill.”
Wrth longyfarch Natalie, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.
“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.
“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”